Psalms 46

Mae Duw gyda ni!

I'r arweinydd cerdd. Cân i leisiau merched ifanc, gan feibion Cora.

1Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni.
Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion.
2Felly fydd gynnon ni ddim ofn
hyd yn oed petai'r ddaear yn ysgwyd,
a'r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr
3gyda'i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu.
Mae'r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo!

 Saib
4Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen.
Ie, y ddinas lle mae'r Duw Goruchaf yn byw.
5Mae Duw yn ei chanol – fydd hi byth yn syrthio!
Bydd Duw yn dod i'w helpu yn y bore bach.
6Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio.
Pan mae Duw yn taranu mae'r ddaear yn toddi.
7Mae'r Arglwydd holl-bwerus gyda ni!
Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni!

 Saib
8Dewch i weld beth mae'r Arglwydd wedi ei wneud;
y difrod rhyfeddol mae wedi ei ddwyn ar y ddaear!
9Mae'n dod a rhyfeloedd i ben drwy'r ddaear gyfan;
Mae'n malu'r bwa ac yn torri'r waywffon,
ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.
10“Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!
Dw i'n llawer uwch na'r cenhedloedd;
dw i'n llawer uwch na'r ddaear gyfan.”
11Mae'r Arglwydd holl-bwerus gyda ni!
Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni!

 Saib
Copyright information for CYM